P-04-338 Deiseb ynghylch ymdrech Severn Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy
Geiriad y Ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn pryderu ynghylch methiant Severn Trent Water i gynnal y safonau uchaf o gyfrifoldeb corfforaethol a ystyrir yn rhan annatod o weithredu fel cwmni cyfyngedig cyhoeddus.
Drwy beidio ag ymgynghori â’r gymuned leol ynghylch gwerthu Ystâd Llyn Efyrnwy a drwy beidio â bod yn dryloyw yn hynny o beth, mae Severn Trent Water wedi methu â chyflawni ei strategaeth gorfforaethol ei hun. Mae’r strategaeth honno yn seiliedig ar ymgysylltu ar lefel gymunedol, cyflawni gwelliannau a sicrhau bod sgil-effeithiau economaidd ac amgylcheddol gweithredoedd y cwmni yn gynaliadwy.
Felly, rydym yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio ar unwaith i ymdrech Severn Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy.
Linc i’r ddeiseb: http://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/petitions_under_consideration.htm
Cynigwyd gan: Annette Griffiths
Nifer y llofnodion: 188
Y wybodaeth ddiweddaraf: Bydd y Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.